Fideo

Croeso i Buffoon Ffilm a’r Cyfryngau.

P'un a ydych yn chwilio am gynhyrchu fideo, ffilmio digwyddiadau neu ffrydio'n fyw, gall ein tîm o gynhyrchwyr profiadol a chreadigol eich helpu.

Os ydych yn chwilio am fideo hyrwyddol, fideo hyfforddi, animeiddiad, ddogfen fach neu rywbeth arall, gall ein tîm o gynhyrchwyr profiadol droi eich gweledigaeth yn realiti.

Mae 81% o fusnesau'n defnyddio fideo i farchnata gan y gall helpu:

  • cynyddu dealltwriaeth defnyddwyr o gynnyrch neu wasanaeth;
  • cynyddu gwerthiant;
  • lleihau ymholiadau am gymorth;
  • cynyddu traffig; a
  • gynyddu amser aros ar wefannau.

 

 

Rydym yn cynnig ffilmio o’r ddaear, ffilmio o'r awyr ac animeiddio i gynhyrchu:

  • teithiau o amgylch cyfleusterau cwmni;
  • cynnwys cyfryngau cymdeithasol;
  • hyrwyddo digwyddiadau;
  • nodweddau cynnyrch/gwasanaeth;
  • blogiau fideo misol;
  • lansio prosiectau;
  • fideos “sut i..”;
  • astudiaethau achos;
  • a llawer mwy!


Rydym hefyd yn cynnig taliadau misol i gwmnïau cyfyngedig fel y gallwch wasgaru'r gost dros bedwar taliad.

 

Gallech chi amcangyfrif cost eich cynhyrchiad fideo wrth ddefnyddio'r cyfrifiannell yma.

 

 

Fideos Busnesau Ceir

Dros y blynyddoedd, rydym wedi cael llawer o brofiad yn gweithio gyda busnesau ceir megis Sinclair Group, Dick Lovett a Mon Motors. O gynhyrchu fideos byr i lansio model newydd, ymgyrchoedd i’r cyfryngau cymdeithasol neu fideos i hyrwyddo’r grŵp. Edrychwch ar ein gwaith yn ein showreel isod.

 

 

 

 

Rhai o'n cleientiaid